Neges gan Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
Fe wnaethom fwynhau wythnos raddio wych ym mis Gorffennaf ac roeddem wrth ein bodd bod pump o'n cyn-fyfyrwyr wedi dychwelyd i Fangor i dderbyn eu graddau er anrhydedd. Mae wir yn arbennig gallu cydnabod llwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr ac rydym yn gwybod bod y profiad o annerch ein graddedigion newydd yn Neuadd Prichard-Jones yn brofiad emosiynol iawn i’r cyn-fyfyrwyr. Gallwch ddarllen mwy am dderbynwyr ein Graddau er Anrhydedd eleni isod.
Gyda chanlyniadau Lefel A yn cael eu rhyddhau'r wythnos hon, mae'r Brifysgol yn paratoi ar gyfer y broses Glirio a'r Diwrnod Agored ddydd Sul, 16 Awst. Os oes rhywun yn eich bywyd yn gobeithio dechrau yn y Brifysgol, efallai y bydd ganddynt ddiddordeb mewn cael cip ar y cyrsiau gwych rydym yn eu cynnal yma, a dysgu sut beth yw astudio ym Mhrifysgol Bangor heddiw. Rydym yn clywed gan nifer o gyn-fyfyrwyr y mae eu plant (ac weithiau eu rhieni hyd yn oed!) hefyd wedi dod i Brifysgol Bangor i astudio, sy'n hyfryd. Mae ein cyn-fyfyrwyr yn llysgenhadon gwych ac mae cael eich help i hyrwyddo eich hen Brifysgol yn hwb gwych. Ewch i’n gwefan i weld mwy o fanylion am y drefn Glirio, i chwilio drwy ein hamrywiaeth wych o gyrsiau, neu i archebu eich lle ar Ddiwrnod Agored.
Dymuniadau gorau,
Emma Marshall
Pennaeth Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni
NEWYDDION O'R BRIFYSGOL
Graddau er Anrhydedd 2026
Anrhydeddodd Prifysgol Bangor deg unigolyn eithriadol - pump ohonynt yn gyn-fyfyrwyr - o fyd gwyddoniaeth, diwylliant, busnes a gwasanaeth cyhoeddus yn ei seremonïau graddio ym mis Gorffennaf.
Mae Gradd Er Anrhydedd yn un o wobrau mwyaf mawreddog Prifysgol Bangor, a roddir i unigolion sydd wedi gwneud argraff nodedig yn eu disgyblaeth academaidd a/neu gyfraniad parhaus at fywyd y brifysgol, yn lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol.
Mae graddedigion er anrhydedd eleni yn cynnwys ffigurau blaenllaw mewn deallusrwydd artiffisial, gofal iechyd, llenyddiaeth, peirianneg, gwyddoniaeth forol a gwaith dyngarol, gan adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i gydnabod llwyddiant sy'n ysgogi arloesedd, yn cyfoethogi cymdeithas ac yn creu effaith fyd-eang.
Derbynyddion graddau er anrhydedd eleni yw:
- Yr Athro Emeritws Piers Chapman (PhD Bioleg Morol, 1983),cemegydd morol ac eigionegydd o fri rhyngwladol
- Dr Elin Haf Davies, clinigydd, entrepreneur ac eiriolwr dros iechyd plant
- Juno Dawson (Seicoleg, 2002), awdures a sgrin-awdures Brydeinig
- Atul Devani (Peirianneg Electronig, 1989), entrepreneur technoleg llwyddiannus ac arweinydd cyfalaf menter
- Mair Wynn Hughes (Ffrangeg, 1954), un o awduron plant mwyaf toreithiog ac annwyl Cymru sy’n sgrifennu yn Gymraeg
- Llion Jones, hwyddonydd cyfrifiadurol ac ymchwilydd deallusrwydd artiffisial o Gymru
- Gwen Parry Jones OBE FREng (Bancio, Yswiriant a Chyllid, 1990), blaenllaw yn sector niwclear y Deyrnas Unedig
- Yr Athro Stephen G Riley, clinigydd ac arweinydd cenedlaethol mewn addysg feddygol
- Philip Snow, awdur ac artist bywyd gwyllt
Syr Terry Waite KCMG CBE, dyngarwr ac awdur
Recriwtio: Cadeirydd y Cyngor, Prifysgol Bangor
Bydd Mrs Marian Wyn Jones, Cadeirydd presennol y Cyngor, yn camu o’r neilltu ar 30 Tachwedd 2026, ac rydym ni nawr yn ceisio penodi ei holynydd.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol sgiliau arweinyddiaeth gryf, a hanes o ymdrin yn llwyddiannus â sefyllfaoedd cymhleth a bydd ganddynt y weledigaeth a’r dylanwad angenrheidiol i lunio’r dyfodol, hyrwyddo rhagoriaeth, a sicrhau bod y sefydliad yn cyflawni effaith barhaol. Bydd ganddynt brofiad o lywodraethu ar frig sefydliad mawr, ynghyd â chraffter ariannol, barn gadarn a sgiliau rhagorol o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Mae’r Brifysgol hefyd yn awyddus i ddenu ceisiadau gan bobl a fyddai â diddordeb bod yn Aelod Annibynnol o’r Cyngor. Bydd Aelodau Annibynnol yn arweinwyr strategol profiadol, gydag arbenigedd mewn archwilio, seiberddiogelwch, deallusrwydd artiffisial, eiddo, a/neu wyddoniaeth.
Am fwy o wybodaeth ac i weld y pecyn ymgeiswyr,
Lansio Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Coedwigaeth
Roedd yn bleser lansio Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Coedwigaeth Prifysgol Bangor yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ar 21 Gorffennaf.
Diben y Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Coedwigaeth yw creu cymuned gysylltiedig a deinamig o gyn-fyfyrwyr a staff Prifysgol Bangor – o’r gorffennol a’r presennol, sy’n datblygu ac yn cadw cysylltiadau rhyngddynt eu hunain ac sy’n frwd dros gefnogi myfyrwyr a staff presennol a’u gweithgareddau, ac yn helpu i recriwtio darpar fyfyrwyr.
Wedi'i gynnal ar stondin Confor (Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigaeth), roedd y lansiad yn cynnwys sgyrsiau gan nifer o gyn-fyfyrwyr, pob un ohonynt yn uchel eu proffil yn y diwydiant Coedwigaeth.
Roedd yn wych gweld cymaint o gyn-fyfyrwyr coedwigaeth yn y lansiad ac yn dangos eu cefnogaeth.
Diolch i’r holl siaradwyr am gymryd rhan yn y digwyddiad ac am eu gwaith caled wrth sefydlu'r Gymdeithas, ac edrychwn ymlaen at ymgysylltu â mwy o gyn-fyfyrwyr Coedwigaeth wrth i waith y gymdeithas fynd rhagddo.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Cafodd Prifysgol Bangor wythnos wych arall yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gan gynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar y stondin.
Fel bob amser, roedd yn hyfryd croesawu cyn-fyfyrwyr i'n haduniad blynyddol brynhawn Mercher. Diolch yn fawr i'r cyn-fyfyriwr Emyr Afan OBE (Cymraeg, 1985), sef Prif Swyddog Gweithredol Afanti Media, am wneud amser yn ei amserlen brysur i rannu ei atgofion o'i gyfnod ym Mhrifysgol Bangor a oedd yn ddechrau gwych i’w lwybr at lwyddiant. Welwn ni chi flwyddyn nesaf yn Eisteddfod Maldwyn Meirionnydd!
Llyfr newydd i ddathlu hanner canrif o UMCB
Mae llyfr newydd sy'n adrodd hanes Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) wedi cael ei gyhoeddi'r i nodi pen-blwydd y sefydliad yn 50 oed.
Mae’r gyfrol , a olygwyd gan Arwel Vittle a'i chyhoeddi gan Y Lolfa, yn dwyn ynghyd straeon, profiadau ac atgofion y staff a’r myfyrwyr hynny sydd wedi helpu i lunio cymuned Gymraeg Bangor, ers sefydlu UMCB ym 1976.
Mae'r llyfr, sydd wedi ei gefnogi gan arian o roddion gan gyn-fyfyrwyr I Gronfa Bangor, yn archwilio datblygiad y sefydliad dros bum degawd, o’r ymgyrchu dros y Gymraeg yn niwedd y 1970au a dechrau'r 1980au i'w rôl ym mywyd myfyrwyr heddiw. Drwy’r defnydd o atgofion personol, lluniau a hanesion, mae'r gyfrol yn edrych yn ôl ar gyfnod o newid sylweddol i addysg uwch a’r bywyd Cymraeg ym Mangor.
FE'CH GWAHODDIR: Darlith Goffa Jack Darbyshire
Teitl: Predicting the future of inland waters
Gan Dr Iestyn Woolway, Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor
8fed Medi 7pm, PONTIO PL5
Byddem yn hynod falch pe byddech yn gallu ymuno â ni ar gyfer Darlith Goffa Jack Darbyshire gyntaf yma ym Mhrifysgol Bangor ar 8fed Medi.
I ddathlu gwaith Yr Athro Jack Darbyshire, Athro Eigioneg Ffisegol cyntaf y Brifysgol a sefydlwyd yr adran yn 1963, bydd y ddarlith ddechreuol, Predicting the future of inland waters, yn cael ei arwain gan Dr Iestyn Woolway o’r Ysgol Gwyddorau Eigion. Mae gwaith Iestyn ar newid amgylcheddol byd-eang wedi cael ei gydnabod yn eang am ei effaith ragorol trwy ddyfarnu nifer o anrhydeddau ac rydym yn siŵr y bydd hwn yn ddarlith ddiddorol iawn gan arweinydd yn y maes.
Mae mynychu yn rhad ac am ddim ac rydym yn gobeithio eich bod yn gallu ymuno a ni. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch alumni@bangor.ac.uk
Cronfa Bangor yn cefnogi project i ddathlu hanes dau ganmlwyddiant Pont Grog Menai
This year marks the bicentenary of Telford’s iconic Menai Suspension Bridge, a once-in-a-generation opportunity to celebrate a remarkable feat of engineering on our doorstep. At 58³Ô¹Ï, we are proud to celebrate this important milestone by connecting our students and local community with the bridge’s rich history and lasting cultural significance.
O Fangor i'r Smithsonian: Sut mae cymynrodd wedi cefnogi darganfod cefnforoedd
Mae cymynrodd er anrhydedd i Isidore a Winifred Marie Wartski yn parhau i helpu myfyrwyr Prifysgol Bangor i ddilyn cyfleoedd ymchwil sy'n newid bywydau ledled y byd. Drwy Grant Teithio Tramor Wartski, derbyniodd Abbie Taylor, myfyrwraig MScRes yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, gyllid i fynd â'i hymchwil i un o sefydliadau gwyddonol blaenllaw'r byd.
Teithiodd Abbie i Amgueddfa Genedlaethol Astudiaethau Natur y Smithsonian yn Washington DC, cartref i un o gasgliadau pwysicaf bywyd morol y Môr Tawel. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar dacsonomeg Eunicidae, teulu o bryfed genwair y môr a geir mewn ecosystemau riffiau cwrel.
Mae cyfleoedd fel hyn yn bosibl diolch i haelioni rhoddwyr sy'n dewis gadael cymynrodd. Mae eu cefnogaeth yn galluogi myfyrwyr i gael mynediad at gyfleusterau eithriadol, meithrin cysylltiadau rhyngwladol, a chyfrannu at ymchwil sydd o bwys byd-eang. Mae rhoddion etifeddol yn sicrhau y gall myfyrwyr fel Abbie ddilyn cyfleoedd uchelgeisiol, datblygu gwybodaeth, a llunio dyfodol eu meysydd, gan adael effaith barhaol ar genedlaethau i ddod.
Phyllis Kinney 1922 - 2026
Cawsom ein tristáu ym Mhrifysgol Bangor o glywed am farwolaeth y Cymrawd er Anrhydedd, Phyllis Kinney, a fu farw yn 103 oed.
Soprano a aned ym Michigan oedd Phyllis Kinney. Disgynnodd mewn cariad â Chymru a threulio ei hoes yn gwarchod hen draddodiadau cerddorol Cymru. Ym 1947 daeth Kinney yn brif unawdydd gyda Chwmni Opera Carl Rosa, gan deithio o amgylch y Deyrnas Unedig. Ar ymweliad â Bangor, cyfarfu â Meredydd Evans, cerddor gwerin ac aelod o'r grŵp harmoni clòs enwog, Triawd y Coleg.
Priododd y ddau ym 1948 ac ymgartrefodd Kinney mewn dim o dro, gan ddysgu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg, gan gyflwyno Merêd, ei gŵr, i draddodiadau gwerin o bob cwr o'r byd. Golygodd Phyllis a Merêd sawl casgliad o ganeuon o Gymru ac ymroi ar ôl ymddeol i ysgolheictod a dysgu’r Gymraeg i eraill.
Gwnaed Phyllis a Merêd yn Gymrodyr er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor ym 1997, ac yn 2007 cyhoeddodd Prifysgol Cymru gyfrol deyrnged ddwyieithog yn dathlu cyfraniad y cwpl i’r Gymraeg ac i gerddoriaeth a diwylliant Cymru. Bu farw Merêd yn 2015, a throsglwyddwyd eu harchifau i ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o Archif Cerddoriaeth Cymru.
Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant i deulu Phyllis.
Delwedd / Image: © Nia Mai Daniel
Yn yr 20 uchaf trwy'r DU am ansawdd addysgu yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2026
Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) 2026 wedi'u cyhoeddi, ac mae’r sgoriau positifrwydd Prifysgol Bangor wedi gwella ym mhob un o themâu’r arolwg.
Cynyddodd sgôr Ansawdd Addysgu Bangor o 87% i 90%, gan osod y Brifysgol yn yr 20 uchaf trwy’r Deyrnas Unedig ac yn ail yng Nghymru. Mae'r thema hon yn adlewyrchu canfyddiadau myfyrwyr o ba mor effeithiol y mae’r staff addysgu yn egluro cynnwys eu cyrsiau, yn ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu ac yn eu herio i gyflawni hyd orau eu gallu.
Y Brifysgol yn cadw ei lle yn y 5% uchaf yn fyd-eang am gynaliadwyedd
Mae Prifysgol Bangor ymhlith y deg uchaf prifysgol fwyaf cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig, ac, am y bumed flwyddyn yn olynol, ymhlith y 100 prifysgol orau yn y byd.
Mae’r Brifysgol bellach yn rhannu safle 74 ar restr o brifysgolion mwyaf cynaliadwy’r byd ac yn rhannu safle 10 yn y Deyrnas Unedig yn ôl y Times Higher Education Impact Rankings, a gynhelir yn flynyddol. Mae hyn yn golygu bod Prifysgol Bangor yn y 5% uchaf o brifysgolion mwyaf cynaliadwy’r byd.
Cyn-fyfyriwr Bangor yn gweithio ar gyfres fawreddog HBO
Mae Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn dathlu llwyddiant Kieran Samuel, graddedig diweddar o Ffilm a’r Cyfryngau, a sicrhaodd leoliad gwaith â thâl ar House of the Dragon gan Warner Bros.
Treuliodd Kieran, a oedd yn fyfyriwr trydedd flwyddyn ar y pryd, chwe wythnos yn gweithio gyda’r Adran Oleuo, sy’n cydweithio’n agos â’r Adran Gamera ar un o gynyrchiadau teledu mwyaf uchelgeisiol y byd. Trefnwyd y lleoliad drwy Academi Sgrin Cymru fel rhan o fenter Cymru Greadigol i gynnig cyfleoedd proffesiynol o ansawdd uchel i bobl ifanc yng Nghymru.
Dysgu Gydol Oes ym Mangor - Cyrsiau Byr, Hyfforddiant Proffesiynol a Dysgu Hyblyg
Os ydych chi’n ystyried datblygu eich sgiliau proffesiynol, dychwelyd i fyd addysg, archwilio cyfeiriad newydd, neu ddysgu er mwyn y pleser o ddysgu, gall Prifysgol Bangor eich cefnogi gyda dulliau hyblyg o ddysgu - lle bynnag yr ydych ar eich taith.
Mae ein cyrsiau byr, ein hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), a’n micro-gymwysterau wedi’u cynllunio i ddiwallu amrywiaeth o nodau, diddordebau a mannau cychwyn ar draws ystod eang o bynciau. Maent yn ffitio o amgylch gwaith a bywyd, gan ei gwneud hi’n haws i chi ddatblygu ar eich cyflymdra eich hun. Mae llawer ohonynt yn cael eu haddysgu ar Lefel 7 (lefel Meistr), gan gynnig cyfle rhagorol i symud ymlaen yn broffesiynol neu gymryd eich cam cyntaf tuag at astudiaethau ôl-raddedig. Gyda nifer o gyrsiau’n dechrau yn Hydref 2026, dyma’r amser perffaith i weld pa gyfleoedd sydd ar gael i chi.
Beth bynnag eich nod, gall cyfleoedd dysgu hyblyg Bangor eich helpu i archwilio diddordebau newydd, magu hyder, ac ehangu eich gorwelion - yn bersonol ac yn broffesiynol.
I weld beth sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i’n tudalen gwe cyrsiau byr neu anfonwch e-bost at: cyrsiaubyr@bangor.ac.uk.
Dathlu myfyrwyr CMI yn seremoniau graddio haf 2026
Dathlodd Ysgol Fusnes Albert Gubay y garfan gyntaf o raddedigion o raglenni â chyd-achrediad CMI Bangor ym mis Gorffennaf.
Fel graddedigion o raglenni â chyd-achrediad CMI, mae pob enillydd hefyd yn dod yn Rheolwyr Siartredig Sylfaenol. Mae hyn yn cydnabod eu gwybodaeth broffesiynol a’u potensial arweinyddiaeth.