Beth yw'r brechlyn MenB?
Mae'r brechlyn MenB yn helpu diogelu pobl rhag grŵp meningococcal B (MenB), math o facteria a all achosi afiechydon difrifol fel llid yr ymennydd a septicaemia (gwenwyn gwaed).
Mae'r rhaglen frechu MenB am ddim ar gael i fyfyrwyr cymwys dan 25 oed sy'n dechrau eu gradd israddedig gyntaf yn y flwyddyn academaidd 2026/27, ac mae hefyd ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol.
Pam ddylech gael eich brechlu?
Mae dechrau yn y brifysgol yn aml yn golygu byw, astudio a chymdeithasu gyda llawer o bobl newydd. Er nad yw clefyd MenB yn beth cyffredin, mae bod mewn amgylchedd lle mae pobl mewn cyswllt agos â’i gilydd yn gallu cynyddu'r risg o haint, a dyna pam mae myfyrwyr cymwys yn cael eu hannog i gael eu brechu cyn cyrraedd y brifysgol.
I gael eich diogelu cymaint â phosib, dylech wneud y canlynol:
- cael eich ail ddos o leiaf 28 diwrnod ar ôl eich dos cyntaf,
- ³¦²¹²Ô¾±²¹³Ùá³Ü 14 diwrnod ar ôl eich ail ddos er mwyn i'ch corff allu gwneud y defnydd gorau o’r brechlyn.
Os yn bosib, trefnwch i gael y ddau ddos cyn cyrraedd Prifysgol Bangor.
Sut i gael eich brechu
Mae sut dylech drefnu eich brechiad yn dibynnu ar ble rydych yn byw.
Os ydych yn byw yng Nghymru:
Cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol neu i gael gwybodaeth am glinigau brechu lleol ac apwyntiadau.
Os ydych yn byw yn Lloegr:
Dilynwch ganllawiau .
Os ydych yn byw yn yr Alban:
Ewch i am wybodaeth am drefniadau brechu.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon:
Dilynwch ganllawiau’r .
Myfyrwyr rhyngwladol:
Dylai myfyrwyr rhyngwladol anelu at dderbyn y ddau ddos o leiaf pythefnos cyn i'w cwrs ddechrau. Os na allwch gael y ddau ddos cyn teithio i Gymru, gellir gwneud trefniadau i chi gael un dos neu'r ddau ddos ar ôl i chi gyrraedd.
Peidiwch â chysylltu â'ch meddygfa i ofyn am y brechlyn MenB, gan nad yw meddygfeydd teulu yn gallu ei ddarparu trwy'r rhaglen hon.
Cwestiynau Cyffredin
Mae'r brechlyn MenB am ddim ar gael i fyfyrwyr cymwys dan 25 oed sy'n dechrau eu gradd israddedig gyntaf yn y flwyddyn academaidd 2026/27, mae hefyd ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol cymwys.
Efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn dechrau eich gradd israddedig gyntaf.
Gallai hynny gynnwys:
- cadarnhad gan UCAS,
- llythyr cynnig gan Brifysgol Bangor,
- eich Cadarnhad Derbyn i Astudiaethau (CAS), lle bo'n berthnasol,
- unrhyw ohebiaeth swyddogol arall sy'n cadarnhau eich lle ym Mhrifysgol Bangor.
Gallwch ddangos y dogfennau hyn ar eich ffôn neu ddod â chopi papur.
Gallwch. Derbynnir cynnig swyddogol am le ym Mhrifysgol Bangor fel tystiolaeth eich bod yn gymwys i gael eich cynnwys yn y rhaglen frechu.
Oes. Rhaid cael dau ddos i’ch diogelu cymaint â phosib rhag clefyd MenB.
Dylid rhoi'r ail ddos o leiaf 28 diwrnod ar ôl eich dos cyntaf. Yna mae'n cymryd tua 14 diwrnod ar ôl eich ail ddos er mwyn i'ch corff allu gwneud y defnydd gorau o’r brechlyn.
Os cewch eich brechiad MenB cyntaf yn Lloegr, yr Alban, neu Ogledd Iwerddon, gallwch gael eich ail ddos yng Nghymru.
Dylech ddod â'ch cerdyn cofnod brechu neu dystiolaeth arall o'ch dos cyntaf i'ch apwyntiad.
Na ddylech. Os ydych yn gymwys, mae'n syniad da cael eich brechu cyn gynted â phosib ac, os oes modd, dylech gael y ddau ddos cyn cyrraedd Prifysgol Bangor.
Os nad ydych yn siŵr eich bod yn gymwys i gael y brechiadau MenB, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol (neu ddarparwr cyfatebol yn eich ardal).
Sut i adnabod arwyddion meningitis
Er nad yw llid yr ymennydd na septicaemia yn bethau cyffredin, mae'n bwysig gallu adnabod yr arwyddion a'r symptomau. Gallant ddatblygu'n gyflym, felly os ydych yn poeni amdanoch eich hun neu am rywun arall, ceisiwch gyngor meddygol ar unwaith.
Gall y symptomau gynnwys:
- gwres mawr,
- dwylo a thraed oer,
- chwydu,
- dryswch,
- anadlu'n gyflym,
- poen yn y cyhyrau a’r cymalau,
- croen gwelw, cochlyd neu frith,
- brech nad yw'n pylu wrth bwyso arno,
- cur pen difrifol,
- cric yn y gwar,
- sensitifrwydd i oleuadau llachar,
- teimlo’n gysglyd iawn neu'n ei chael hi’n anodd deffro,
- ffitiau.
Gellir trin meningitis a septicaemia gyda gwrthfiotigau, ac mae’r driniaeth fwyaf effeithiol pan gaiff ei dechrau cyn gynted â phosib.
Os ydych yn meddwl bod gennych chi neu rywun arall lid yr ymennydd neu septicaemia, peidiwch â disgwyl i'r holl symptomau ymddangos. Ceisiwch gyngor meddygol brys ar unwaith. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Rhagor o wybodaeth a chyngor
Am ragor o wybodaeth am raglen frechu MenB a llid yr ymennydd, ewch i:
- .
- .
- .
- .