Mae’r dudalen hon yn esbonio sut i gysylltu â Phrifysgol Bangor am gyngor Clirio. Gall ymgeiswyr siarad yn uniongyrchol â staff am y cyrsiau sydd ar gael, sut i wneud cais, a’r camau nesaf yn ystod Clirio. Felly, os ydych yn chwilio am gwrs drwy Clirio, neu os oes gennych gwestiwn am eich lle ym Mangor, ffoniwch y Llinell Gymorth Clirio.
- Ymgeiswyr Clirio israddedig yn y DU – ffoniwch y Llinell Gymorth Clirio ar 0800 085 1818.
- Ymgeiswyr sy’n ffonio o’r tu allan i’r DU – ffoniwch +44 (0)1248 388320.
Mae’r manylion cyswllt hyn ar gyfer Clirio israddedig yn unig.
Oriau Agor y Llinell Gymorth Clirio
Mae oriau agor y Llinell Gymorth Clirio yn amrywio yn ystod y cyfnod Clirio.
Cyn diwrnod canlyniadau Lefel A:
- Dydd Llun–Dydd Gwener: 9am-6pm. Pwyswch 1 ar gyfer yr opsiynau yn Gymraeg, yna pwyswch 1 i siarad â’r Swyddfa Dderbyniadau. Pwyswch 2 ar gyfer yr opsiynau yn Saesneg, yna pwyswch 1 i siarad â’r Swyddfa Dderbyniadau.
O ddiwrnod canlyniadau Lefel A:
- Dydd Iau, 13 Awst: 8am–8pm
- Dydd Gwener, 14 Awst: 8am–8pm
- Dydd Sadwrn, 15 Awst: 10am–3pm
- Dydd Sul, 16 Awst: 10am–3pm
- Dydd Llun, 17 Awst – Dydd Gwener, 21 Awst: 9am–6pm
- Tan Ddydd Gwener, 28 Awst: 9am–5pm (dyddiau’r wythnos)
Sut gall y Llinell Gymorth Clirio helpu?
- Gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer Clirio
- Dod o hyd i gyrsiau sydd â lleoedd ar gael drwy Clirio
- Gwneud cynnig Clirio
- Trafod eich camau nesaf ar ôl derbyn cynnig drwy Clirio
- Rhoi cyngor ar sut y gallwch ymweld â’r Brifysgol
- Rhoi cyngor ar pryd a sut i wneud cais am lety prifysgol
Cwestiynau Cyffredin Llinell Gymorth Clirio
Mae’r Llinell Gymorth Clirio ar gyfer ymgeiswyr:
- Nad ydynt ar hyn o bryd yn dal cynnig prifysgol (e.e. heb wneud cais o gwbl i unhyw brifysgol neu heb fodloni gofynion eu Dewis Cadarn neu Ddewis Wrth Gefn).
- Sydd wedi newid eu meddwl am eu cynnig gwreiddiol gan brifysgol arall ac sy’n dymuno gwybod mwy am y cyrsiau Clirio ym Mangor.
- A wnaeth gais i Fangor yn wreiddiol ac sydd eisiau cadarnhad o’u lle.
Pan fyddwch yn ffonio, byddwch yn siarad yn uniongyrchol ag aelod o staff Prifysgol Bangor a all drafod eich opsiynau Clirio ac, yn dibynnu ar eich cymwysterau, fydd yn gallu rhoi cynnig Clirio i chi astudio ym Mhrifysgol Bangor. Os dymunwch, gall staff eich rhoi mewn cysylltiad â’r aelod o staff academaidd perthnasol a all ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cwrs cyn i chi benderfynu derbyn y cynnig.
Nac oes. I drafod eich opsiynau Clirio, gallwch lenw ein Ffurflen Clirio neu gallwch anfon neges dros Sgwrs Fyw neu WhatsApp yn ystod cyfnod canlyniadau Lefel A.
Gallant. Gall ymgeiswyr sy’n ffonio o’r tu allan i’r DU gysylltu â’r tîm Derbyniadau ar +44 (0)1248 388320 am gyngor Clirio.
Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon wedi’i diweddaru ar gyfer Clirio 2026.