Gwobr Ryngwladol i Athro
Mae Stefan Machura, Athro mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, wedi derbyn Gwobr Ryngwladol Anrhydeddus 2020 Cymdeithasfa Cyfraith a Chymdeithas (LSA) “i gydnabod ei gyfraniadau arwyddocaol i helaethiad gwybodaeth ym maes cyfraith a chymdeithas.†Mae’r LSA wedi’i lleoli yn yr UD ond mae ganddi aelodau ar draws y byd, a hi yw’r gymdeithasfa ysgolheigaidd fwyaf blaengar yn ei maes.
Stefan Machura, Athro mewn Troseddeg a Chyfiawnder TroseddolMae Stefan Machura yn gweithio yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeitas, Prifysgol Bangor, ac mae’n ymchwilio ac yn darlithio ar feysydd amrywiol, yn cynnwys barnwyr lleyg mewn llysoedd, tegwch a chyfreithlondeb llysoedd a’r heddlu, a chyfraith mewn ffilm ac ar y teledu.
Ar nodyn ysgafnach, cyhoeddodd Stefan erthygl ar y cyd ag Olga Litvinova, Cydymaith Ymchwil Anrhydeddus Prifysgol Bangor, ym mis Gorffennaf eleni, a hynny ar wrthdaro a chyfraith yn y gyfres gomedi Fraiser.
Canolbwyntiodd erthygl arall ganddo ar ddamcaniaeth 1969 Niklas Luhmann am “gyfreithlonrwydd drwy weithdrefn†a pham ei fod, yng ngoleuni ymchwil diweddar, angen cael ei bwysleisio bod “cyfreithlonrwydd drwy weithdrefn†yn angenrheidiol. Cyhoeddwyd yr erthygl mewn Almaeneg yn y cyfnodolyn Soziale Systeme.
Da iawn wir, Stefan!