Datblygiad ThinkCancer!
O'i gymharu â gwledydd eraill y Gorllewin, mae gan Gymru ganlyniadau canser cymharol wael (The Lancet 2019) gyda diagnosis hwyr yn ffactor pwysig (CPGC, 2020). Mae tystiolaeth o'r Bartneriaeth Meincnodi Canser Ryngwladol wedi dangos bod meddygon teulu yng Nghymru yn llai tebygol o atgyfeirio neu ymchwilio (Rose et al., 2015) a bod llai o bobl yn glynu wrth ganllawiau canser (Nicholson, Mant, Neal et al., 2016). Mae hyn yn cael effaith negyddol ar ganlyniadau canser. 
Mae'r diffygion hyn wedi eu cydnabod gan wasanaeth iechyd gwladol Cymru a gyhoeddodd fanylion Cynllun Gwella Canser tair blynedd (Rhwydwaith Canser Cymru 2023) yn gynharach eleni, sy'n nodi cyfres o fesurau a roddwyd ar waith i wella profiad a chanlyniadau bobl sydd â chanser arnyn nhw. Yn hyn o beth, cydnabyddir nad bai gofal cychwynnol yw'r holl ddiffygion ond eu bod yn systemig eu natur a byddant yn gofyn am fuddsoddiad a gwelliant ychwanegol mewn systemau digidol a mynediad. Fodd bynnag, mae gan ofal sylfaenol ran eithriadol o bwysig wrth ganfod a thrin canser yn gynnar - mae tua 60% o ganserau'n cael eu diagnosio trwy ofal cychwynnol (Hanna 2020), ac mae bron i hanner (49%) yr oedi y gellir ei osgoi yn digwydd o fewn gofal cychwynnol (Swann 2020).
Mae ‘ThinkCancer!’ yn mynd i’r afael â’r broblem hon drwy roi'r wybodaeth ddiweddaraf i feddygon teulu, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cysylltiedig a staff anghlinigol eraill am y newidiadau diweddaraf i ganllawiau clinigol ac i ddatblygu a gwella eu gwybodaeth a'u sgiliau eu hunain ynghylch symptomau amwys canser a’r rhai sy’n 'anoddach eu gweld'. Gobeithir y gellir gwella canlyniadau canser drwy wneud hyn.
Cefndir y treial ThinkCancer!
Mae’r treial ThinkCancer! yn adeiladu ar raglen ymchwil gynharach o'r enw Ymyriadau a Gwybodaeth Canser Cymru am Ddiagnosis Cynnar (WICKED). Nodau cyffredinol y Rhaglen WICKED oedd gwella ansawdd a chysondeb y dulliau gofal cychwynnol i wella diagnosis amserol o ganser.  Cyfrannodd meddygon teulu yng Nghymru at bob cam o'r rhaglen ymchwil hon.
Datblygwyd y rhaglen WICKED yn becynnau gwaith o un i bump lle defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau i gasglu ac integreiddio data am ddiagnosis canser mewn gofal cychwynnol i gynhyrchu ymyrraeth a fyddai'n sail i'r treial ThinkCancer!
Pecynnau Gwaith 1 i 3
Roedd Pecynnau Gwaith 1 a 2 yn cynnwys cynhyrchu arolwg ar-lein gan gynnwys Arbrawf Dewis Arwahanol a anfonwyd at bob meddyg teulu yng Nghymru. Yna cynhaliwyd ugain cyfweliad dros y ffôn gyda meddygon teulu ac yna cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda phedwar tîm meddygfa. â¶Ä¯
Drwy gydol y broses hon ymgynghorwyd â gwahanol grwpiau rhanddeiliaid, ac roedd damcaniaeth newid ymddygiad yn sail i'r gwaith fel modd o gytuno ar ymddygiad targed ar ôl cwblhau Pecyn Gwaith 3 - meddygon teulu yn meddwl am ymgyflwyniadau clinigol* a allai fod yn ganser ac yn gweithredu arnynt (yr ymyrraeth ThinkCancer!).
Pecyn Gwaith 4 - Yr Astudiaeth Ddichonoldeb
Profwyd yr ymyrraeth hon ar raddfa fach yn yr astudiaeth ddichonoldeb ThinkCancer! Helpodd hyn i werthuso dyluniad astudiaeth Cyfnod III ehangach i benderfynu a all ThinkCancer! leihau amseroedd atgyfeirio ac a yw'n gost-effeithiol. Cyflawnwyd yr astudiaeth ddichonoldeb yn llwyddiannus ac roedd y gyfres o weithdai ar gyfer holl staff meddygfeydd yn amlwg yn amserol ac yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan feddygfeydd. Cyrhaeddwyd y targed recriwtio, ac roedd meini prawf dilyniant yn dangos bod treial cam III yn ymarferol ac yn dderbyniol. 
Pecyn Gwaith 5 – Paratoi ar gyfer treial Cam 3
Arweiniodd gwersi a ddysgwyd yn ystod yr astudiaeth ddichonoldeb at fireinio ymhellach yr ymyrraeth ThinkCancer! ym Mhecyn Gwaith 5. Mae nifer o faterion methodolegol a amlygwyd wedi cael sylw yn nhreial cam III a gwnaed addasiadau. Dylanwadwyd ymhellach ar y rhain gan fewnbwn Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd, newidiadau cyd-destun mewn gofal sylfaenol (er enghraifft hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus, a sylwadau yn dilyn proses adolygu gan gymheiriaid.
Mae rhagor o wybodaeth am raglen WICKED ar gael yma °Â±õ°ä°·¡¶Ù.²ú²¹²Ô²µ´Ç°ù.²¹³¦.³Ü°ì 
Adolygiad Nodiadau Achos
Mae diagnosio canser yn gynharach yn gwella canlyniadau i gleifion, ac oherwydd bod triniaeth gynharach yn tueddu i fod yn llai dwys mae hefyd yn arbed arian i’r gwasanaeth iechyd. Mae cyfraddau goroesi canser pum mlynedd y Deyrnas Unedig yn waeth na gwledydd incwm uchel eraill (CRUK, 2017, Arnold 2019) ac mae oedi wrth ddiagnosio canser a dechrau triniaeth yn rhan o'r rheswm dros hyn (Hanna 2020).
Mae'r rhan fwyaf o gleifion sydd wedi cael diagnosis o ganser yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu gweld mewn meddygfa gyda symptomau a allai fod yn gysylltiedig â'u canser (Swann 2018). Mewn meddygfeydd y mae bron i hanner yr oedi y gellir ei osgoi wrth ddiagnosio canser (Swann 2020).
Fel rhan o dreial ehangach 'ThinkCancer!', rydym yn cynllunio astudiaeth bellach i archwilio'n fanwl achosion 200-300 o gleifion sydd wedi aros yn llawer hirach na'r cyfartaledd i'w math o ganser gael diagnosis. Ar hyn o bryd, ychydig a wyddys am y rhesymau pam mae rhai cleifion yn cael diagnosis yn llawer hwyrach nag eraill sydd â'r un math o ganser, ond ein nod yw archwilio'r rhesymau dros hyn. Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu i ddatblygu ffyrdd o atal cleifion eraill rhag profi oedi tebyg yn y dyfodol.
Yr Athro Clare Wilkinson
Cyd-Brif Ymchwilydd ac Athro Meddygaeth Deulu a Chyd-Brif Ymchwilydd
c.wilkinson@bangor.ac.uk
Yr Athro Richard Neal
Cyd-Brif Ymchwilydd, Athro Oncoleg ac Athro Meddygaeth Deulu
RDNeal@leeds.ac.uk
Nic Nikolic â¶Ä¯
Rheolwr y treial
n.nikolic@bangor.ac.uk
Dr Dan Walker
Addysgwr Meddygaeth Deulu
d.walker@bangor.ac.uk
Dr Kauthubha Raman
Cymrawd Clinigol Academaidd
k.raman@bangor.ac.uk
Dr Annie Hendry 
Ymchwilydd Ansoddol
a.hendry@bangor.ac.uk
Clio Evans
Swyddog Cefnogi Project Ymchwil (Ansoddol)
Clio.evans@bangor.ac.uk
Benji Cotterell 
Swyddog Cefnogi Project Ymchwil
²ú.³¦´Ç³Ù³Ù±ð°ù±ð±ô±ô°ª²ú²¹²Ô²µ´Ç°ù.²¹³¦.³Ü°ì 
Stefanie Disbeschl​
Swyddog Cefnogi Project Ymchwil
stefanie.disbeschl@bangor.ac.uk
Richard Evans
Uwch Weinyddwr Ymchwil
Richard.evans@bangor.ac.uk
Emma Jones
Swyddog Clerigol
Emma.Jones@bangor.ac.uk
Dr Kirstie Pye​
Rheolwr yr Uned Treialon Clinigol​
k.pye@bangor.ac.uk
Dr Nia Goulden  â¶Ä¯
Ystadegydd Treialon
n.goulden@bangor.ac.uk
Dr Rachel Evans â¶Ä¯
Uwch Ystadegydd Treialon
r.evans@bangor.ac.uc
Huw Williams​
Swyddog Systemau Digidol Treialon Clinigol​
huw.w@bangor.ac.uk
Thomas Goff​
Swyddog Systemau Data Treialon Clinigol​
t.goff@bangor.ac.uk
Casey Nolan
Hwylusydd Cyflwyno Technoloeg Gwybodaeth Treialon
³¦²¹²õ±ð²â.²Ô´Ç±ô²¹²Ô°ª²ú²¹²Ô²µ´Ç°ù.²¹³¦.³Ü°ì 
Bethan Lewis
Swyddog Cefnogi Sicrhau Ansawdd​
bethan.lewis@bangor.ac.uk
Karolina Rusiak​
Swyddog Sicrhau Ansawdd​
k.rusiak@bangor.ac.uk
Elizabeth Denis​
Swyddog Cefnogi Sicrhau Ansawdd​
e.denis@bangor.ac.uk
Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards
Athro Economeg Iechyd a Goruchwyliaeth Economaidd Iechyd
rtedwards@bangor.ac.uk
Victory Ezeofor     
Modelydd Ystadegol (Economeg Iechyd)     
v.ezeofor@bangor.ac.uk
Dr Bethany Anthony â¶Ä¯
Swyddog Ymchwil (Economeg Iechyd)
b.anthony@bangor.ac.uk
Yr Athro Nefyn Williams â¶Ä¯
Athro Gofal Cychwynnol / Cydweithredwr
Prifysgol Lerpwl
Yr Athro Kate Brain
Athro Seicoleg Iechyd / Cydweithredwr
Prifysgol Caerdydd
Yr Athro Andrew Carson-Stevens
Athro Diogelwch Cleifion / cydweithredwr
Prifysgol Caerdydd
Janice Rose  â¶Ä¯
Cynrychiolydd Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd a Chyd-ymgeisydd
Elfyn Jones 
Cynrychiolydd Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd
Keith Holt
Cynrychiolydd Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd
Helen Rees
Cynrychiolydd Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd
Sian Rogers
Cynrychiolydd Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd
Hoffem ddiolch i'n harianwyr Ymchwil Canser Cymru a North West Cancer Research, ac i aelodau'r cyhoedd sy'n cefnogi'r elusennau hyn. Hebddynt, ni fyddai ein gwaith yn bosibl.
Medi 2025
Mehefin 2026
Earlier cancer diagnosis in primary care: a feasibility economic analysis of ThinkCancer!
Randomised feasibility trial of a novel practice-based early cancer diagnosis intervention
Tensions in primary care cancer detection: An embedded qualitative intervention development study
SAPC 2023 - Teitl: The ThinkCancer! Intervention: results and lessons learned from a phase II feasibility trial in Wales. 
CREST 2023 (Cyflwynwyd gan Dr Dan Walker) & Dr Annie Hendry) - Teitl: ThinkCancer!: A pragmatic randomised controlled phase III trial of a novel behavioural intervention for primary care teams to promote earlier cancer diagnosis​
HCRW 2023 (Cyflwynwyd gan Clio Evans) - Teitl: Weaving Patient and Public Voices into the ThinkCancer! Study
PRIME 2023 (Cyflwynwyd gan Clio Evans) - Teitl: Innovating Efficient Ways of Acquiring Patient and Public Feedback for the ThinkCancer! Study​
CaPRI 2023 (Cyflwynwyd gan Stefanie Disbeschl) - Teitl: The ThinkCancer! Intervention: results and lessons learned from a phase II feasibility trial in Wales 
SW SAPC 2024 (Cyflwynwyd gan Clio Evans) - Teitl: Weaving Patient and Public Voices into the ThinkCancer! Study 
SAPC 2024 (Cyflwynwyd gan Clio Evans)  - Teitl: Creating robust safety netting systems to expedite cancer diagnosis: The progress of a phase III RCT 
SAPC 2024 (Cyflwynwyd gan Dr Annie Hendry) - Teitl: How can the whole practice approach to training and education foster a healthy system in facilitating early cancer diagnosis in primary care? Qualitative findings from a feasibility RCT. â¶Ä¯
SAPC Gogledd 2024 (Cyflwynwyd gan Benji Cotterell) - Teitl: The importance of Patient and Public Involvement and Patient Advisory Groups on a phase III clinical trial.
PRIME 2024 (Cyflwynwyd gan Clio Evans) - Devising Solutions to facilitate General Practices' participation in the ThinkCancer! Randomised Controlled Trial.
PRIME 2024 (Cyflwynwyd gan Benji Cotterell) - The importance of Patient and Public Involvement and Patient Advisory Groups on a phase III clinical trial.
SAPC 2025 (Cyflwynwyd gan Clio Evans) - An in-depth exploration of key stakeholder perspectives to establish context for implementing ThinkCancer!, a novel behaviour intervention.
SAPC 2025 (Cyflwynwyd gan Benji Cotterell) - Reaching over 1 million patients and accessing patient records via VPNs in primary care.
Ca-PRI 2025 (Cyflwynwyd gan Clio Evans) - Setting the context for ThinkCancer!: A qualitative exploration of stakeholder perspectives.​
Symposiwm NWCR 2025 (Cyflwynwyd gan Stefanie Disbeschl) – cyflwyniad PhD. ​
ThinkCancer! Supports “Stripe a Pose� for World Cancer Research Day
The ThinkCancer! team were delighted to support Cancer Research Wales’ “Stripe a Pose� campaign for World Cancer Research Day, proudly showing our stripes to champion life-saving cancer research across Wales. Through a series of team photos and media posts, we helped shine a light on the crucial role of research in advancing early diagnosis and cancer prevention. The campaign was an important opportunity for us to stand alongside colleagues and communities across Wales, united in our shared commitment to improving cancer outcomes for all.
Cancer: Doctors urged by charity to identify symptoms sooner
Cwrdd â’r Ymchwilwyr: Clio Evans
SW SAPC 2024 & HCRW Conference 2023
WONCA 2023
Gwybodaeth bellach
Darllenwch fwy am Raglen WICKED a'r Pecynnau Gwaith blaenorol drwy  i ddarllen ein cyhoeddiad yn y BJGP.
 *ymgyflwyniadau clinigol: symptomau, arwyddion clinigol a'r cyd-destun (e.e. hanes meddygol, ffactorau risg, ymgynghoriadau blaenorol) yn ystod ymgynghoriad gofal cychwynnol.
I wybod mwy am yr astudiaeth hon, cysylltwch â thîm yr astudiaeth ar thinkcancer@bangor.ac.uk.
© Prifysgol Bangor
53.04758708462477, -3.0139847228667436