Astudiaeth yn dangos fod effaith economaidd prifysgolion Cymru yn tanio’r economi ym mhob rhan o’r wlad
²Ѳ¹±ð’r ddiweddaraf gan arbenigwyr addysg yn dangos fod prifysgolion yng Nghymru yn chwarae rhan allweddol yn tanio economi Cymru.
Cynhyrchodd prifysgolion Cymru, ynghyd â gwariant oddi ar y campws gan fyfyrwyr ac ymwelwyr, gyfanswm o £4.6 biliwn o allbwn yng Nghymru, a gwelir fod y sector addysg uwch yn un o ddiwydiannau mwyaf gwerthfawr Cymru, a’i fod yn creu degau o filoedd o swyddi ac yn symbylu gweithgarwch economaidd mewn cymunedau lleol, yn ogystal ag economi Cymru yn gyffredinol.
²Ѳ¹±ð’r adroddiad gan Viewforth Consulting yn dilyn astudiaeth debyg a gyhoeddwyd yn 2013, ond y tro yma mae’n canolbwyntio ar ddata o 2014 ac yn defnyddio methodoleg newydd a mwy penodol. Daw’r adroddiad i’r casgliad fod addysg uwch yn actor a diwydiant economaidd o bwys ynddo’i hun a’i fod yn cynhyrchu tua £2.4bn o GVA Cymru (cyfwerth â 4.6% o gyfanswm Cymru) ac yn creu bron i 50,000 o swyddi yng Nghymru (3.4% o gyfanswm Cymru).
Hefyd, am y tro cyntaf mae’r gwaith hwn yn cynnwys dadansoddiad estynedig o effaith economaidd Prifysgolion Cymru ar draws holl ranbarthau Cymru. Canfu’r gwaith fod pob rhan o Gymru yn elwa o ‘sgîl effeithiau’ gweithgarwch prifysgolion Cymru, boed ganddynt bresenoldeb prifysgol yn eu hardal ai peidio. Trwy greu model penodol i Gymru llwyddodd Viewforth Consulting i ddangos sut mae effaith economaidd yn lledu i ardaloedd nad oes ganddynt brifysgol trwy “grych-effeithiau”, ac roedd chwarter y GVA (£597m) a’r swyddi (11,783) a grëwyd gan brifysgolion Cymru mewn rhannau o Gymru nad oes ganddynt brifysgol ar eu trothwy.
Mae rhai o brif gasgliadau eraill yr adroddiad hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd cynyddol prifysgolion Cymru ar y llwyfan byd-eang. Erbyn hyn mae’r diwydiant addysg uwch yn gyfrifol am 4.6% o holl allforion Cymru, sef £600m, ac mae campysau mwyfwy amrywiol ac amlddiwylliannol yn denu mwy o ymwelwyr tramor i Gymru, sydd yn ei dro yn codi proffil y genedl dramor.
Dywedodd cydawdur yr ymchwil, Dr Ursula Kelly o Viewforth Consulting: “Ers cyhoeddi ein hadroddiad cyntaf, gwelwn fod pwysigrwydd addysg uwch i economi Cymru wedi tyfu fwy fyth. ²Ѳ¹±ð’r astudiaeth hon yn tanlinellu’r ffaith fod prifysgolion Cymru nid yn unig o gryn bwys i Gymru yn cefnogi datblygiad economaidd trwy addysg ac ymchwil, ond eu bod hefyd yn gyfranwyr economaidd pwysig eu hunain trwy gynhyrchu allbwn, swyddi a GVA.”
Dywedodd Cadeirydd Prifysgolion Cymru ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: “Mae’n bwysig deall fod prifysgolion yn asedau - golyga hynny nid yn unig adnoddau i ddarparu rhaglenni astudio, ond eu bod hefyd yn gyfrifol am fuddsoddi sylweddol, ac rwyf yn falch fod casgliadau adroddiad heddiw yn dangos fod cyfraniad prifysgolion Cymru i sefyllfa economaidd ein cenedl wedi parhau i dyfu. Mae’n briodol ein bod yn dathlu effaith economaidd, gymdeithasol a diwylliannol ein prifysgolion, a gobeithiwn fod yr adroddiad yn tanlinellu beth all prifysgolion ei gyfrannu, nid yn unig i economi Cymru, ond i wneuthuriad ein cenedl.
‘Mae’n bwysicach nac erioed ein bod, gyda Llywodraeth Cymru, yn gweithio ar ddod o hyd i atebion i’r heriau tymor byr sy’n wynebu’r sector fydd yn galluogi ein prifysgolion i gynnal ac adeiladu ar y cyfraniad economaidd a amlygir yn yr adroddiad.’
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2015