Gweithdy DPP CELT: Y Tu Mewn i’r Panel Dilysu: Adolygu’n Hyderus
Siaradwr: Yr Athro Graham Bird, Dr Ama Eyo-Otung a’r tîm Ansawdd a Safonau
Rhannwch y dudalen hon
Trosolwg
Mae paneli dilysu ac ailddilysu yn helpu i gynnal safonau academaidd, gwella ansawdd rhaglenni ac yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddysgu o arferion ledled y Brifysgol. Bydd y gweithdy ymarferol hwn yn eich helpu i deimlo’n fwy sicr ynghylch bod yn aelod o banel. Byddwch yn dysgu sut i adolygu tystiolaeth yn hyderus, gofyn cwestiynau adeiladol a chyfrannu’n effeithiol at benderfyniadau’r panel.
Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i:
- Ddeall rolau a chyfrifoldebau aelodau’r panel;
- Adolygu tystiolaeth gan ddefnyddio dull strwythuredig;
- Nodi materion academaidd allweddol a materion sy’n ymwneud â phrofiad myfyrwyr;
- Rhoi adborth clir ac adeiladol; a
- Pharatoi ar gyfer panel a chael cymorth drwy gydol y broses.
Mae’r gweithdy’n addas i adolygwyr newydd a phrofiadol sydd am ddiweddaru eu gwybodaeth neu rannu arferion effeithiol.
Iaith y sesiwn: Saesneg