Gwefan newydd yn agor y drws i lenyddiaeth Gymraeg i bobl ifanc yn ystod y cyfyngiadau symud
Morgan DafyddMae myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor wedi lansio gwefan newydd i agor y drws i lenyddiaeth Gymraeg i bobl ifanc yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Mae'r wefan a gr禱wyd gan Morgan Dafydd yn cynnig adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant er mwyn meithrin brwdfrydedd ynddynt am ddarllen yn Gymraeg.
Dywedodd y cyn-athro ysgol gynradd fod plant sy'n astudio Cymraeg fel ail iaith yn aml yn ei chael yn anodd deall llenyddiaeth Gymraeg a bod hyn yn effeithio ar eu hyder a'u mwynhad wrth ddarllen.
Nod y wefan yw ei wneud yn haws i rieni a phobl ifanc ddod o hyd i'r llyfr delfrydol.
Mae'r fenter newydd wedi cael ei lansio yng nghanol y cyfyngiadau symud oherwydd y Coronafeirws pan mae rhieni yn ei chael yn anodd difyrru eu plant a'u dysgu o gartref.
Mae'n cynnwys cyfoeth o adnoddau gan gynnwys adolygiadau defnyddiol, flogiau gan westeion ac offer addysgol ac mae'n cyflwyno plant i amrywiaeth o awduron cyffrous.
Mae Morgan yn 29 oed ac yn byw yng Nghyffordd Llandudno, yn Gymro Cymraeg ac yn astudio am ddoethuriaeth ar hyn o bryd yn Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor.
Bydd y project ymchwil tair blynedd hwn, a ariennir trwy ysgoloriaeth gan y gydag arian cyfatebol gan Brifysgol Bangor, yn archwilio i ba raddau y mae gwahanol fathau o lyfrau dwyieithog yn cyfrannu at fwynhad, dealltwriaeth a pharodrwydd plant i ddarllen yn Gymraeg yn ogystal 璽 gwella eu geirfa.
Mae Morgan, a arferai ddysgu yn Ysgol Dolgarrog yn Nyffryn Conwy cyn iddi gau, wedi creu'r adnodd am ddim i gefnogi nod uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
���Mae���r cyfan yn deillio o fy nghefndir fel athro,��� esboniodd.
���Mae yna lawer o blant a rhieni sydd ddim yn ymwneud 璽 llenyddiaeth Gymraeg o gwbl. Gall fod yn faes dryslyd iddynt.
���Roedd y plant roeddwn i'n eu dysgu yn dod o gefndiroedd di-Gymraeg ac yn ei chael yn anodd darllen yn Gymraeg. Yn y dosbarth unwaith, gofynnais i unrhyw un oedd wedi bod yn y siop lyfrau Gymraeg i lawr y ffordd i godi eu dwylo, a doedd neb ohonyn nhw wedi bod erioed.
���Mi wnes i ychydig bach o waith yn y dosbarth heb feddwl am y peth go iawn, gan newid rhywfaint ar yr adnoddau dysgu, a hynny sydd wedi dod yn sail i fy noethuriaeth.
���Roeddwn i'n meddwl y byddai'r wefan yn syniad da i gefnogi plant a'u rhieni yn benodol wrth ddewis pa lyfrau i'w prynu. Mae'n fwy na datblygu dealltwriaeth, mae'n ymwneud 璽'u hannog i gael mwy o fwynhad o lyfrau Cymraeg a'u hannog i ddarllen er mwyn pleser.
���Gwefan 'llyfrau da' ydy hi yn y b繫n, sy'n cynnig adolygiadau o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc.���
Magwyd Morgan yng Nghonwy, a mynychodd Ysgol Maelgwn yng Nghyffordd Llandudno ac Ysgol y Creuddyn yn ddiweddarach. Ar 繫l yr ysgol, cwblhaodd radd mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor cyn mynd ymlaen i wneud cwrs dysgu TAR yno. Yna astudiodd am radd meistr mewn Ymarfer Addysgol wrth weithio fel athro fel rhan o raglen a gefnogwyd gan y llywodraeth.
Tra roedd yn dal i ddysgu, bu Morgan yn gweithio gyda'r Athro Enlli M繫n Thomas o Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Bangor i lunio cynnig PhD am grant gan y .
Ysbrydolwyd y pwnc gan adroddiad dylanwadol a gomisiynwyd gan yn 2017 ac a ysgrifennwyd gan Dr Siwan Rosser, o Ysgol Gymraeg Prifysgol Caerdydd, a oedd yn edrych ar ddiwydiant llyfrau Cymru yn ei gyfanrwydd. Roedd yn nodi nifer o argymhellion gan gynnwys yr angen i ymchwilio ymhellach i natur a phwrpas llyfrau dwyieithog.
���Rwy���n meddwl bod hyn yn hynod o bwysig,��� meddai Morgan, sy���n gwirfoddoli fel criwmon i���r RNLI yng Nghonwy.
���Mae darllen yn chwarae rhan fawr ym mhopeth. Fel arfer rydych yn gallu dweud pa blant sy'n darllen a pha blant sydd ddim yn darllen.
���Mae yna bwysau mawr ar ysgolion i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ac eto rydyn ni'n gwybod bod siaradwyr ail iaith yn aml yn anfodlon defnyddio'r Gymraeg am amryw o resymau, ac mae hynny'n cyfyngu ar brofiadau plant o ddefnyddio'r Gymraeg wrth sgwrsio 璽 phobl eraill.
���Yn wahanol i siarad, mae darllen yn weithgaredd unigol nad oes rhaid cael partner sgwrsio i'w wneud, tra���n parhau i gynnig geirfa ac ymadroddion newydd i���r dysgwr eu hystyried.
���Ond ar hyn o bryd, mae llenyddiaeth Gymraeg yn rhywbeth mae llawer o blant a phobl ifanc yn ei gysylltu 璽'r ysgol yn unig ac ni fydden nhw o reidrwydd yn prynu llyfrau a'u darllen yn eu hamser eu hunain. Rydyn ni eisiau iddyn nhw fwynhau llenyddiaeth Gymraeg.
���Pan oeddwn i'n dysgu, roeddwn i'n cyfnewid rhai geiriau Cymraeg anodd gyda geiriau Saesneg er mwyn cael rhyw fath o lyfr dwyieithog cymysg yn y gobaith bod hynny'n ei wneud yn haws i'w ddeall. Mae yna eiriau Cymraeg anodd iawn nad ydyn ni'n eu defnyddio'n aml iawn mewn llyfrau Cymraeg.
���Fy nod yw helpu plant i ddeall y llyfr fel eu bod yn mwynhau beth maen nhw'n ei ddarllen ac yn ei ddarllen er mwyn pleser.���
Adeiladodd Morgan y wefan gyda chymorth ei bartner, Llio Mai Hughes, swyddog Cymraeg gyda Chyngor Gwynedd, ond heb unrhyw arian allanol.
Mae eisoes wedi cynnwys 100 o adolygiadau ar y wefan gan gynnwys awgrymiadau defnyddiol fel cynnwys a lefel anhawster i helpu plant roi cynnig arni ac roedd y cyfyngiadau symud yn gyfle perffaith i lansio'r wefan. Mae'n gobeithio parhau i wella'r gwasanaeth trwy roddion.
���Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi bod yn gefnogol iawn ac rydyn ni'n ddiolchgar iddyn nhw am eu cymorth.
���Ar hyn o bryd rydyn ni'n chwilio am gyllid ar gyfer y wefan, mae���r cyfan yn cael ei wneud yn wirfoddol ar hyn o bryd,��� meddai.
���Yn ddelfrydol, rydw i eisiau i blant a phobl ifanc eu hunain gyfrannu at y wefan. Byddai'n llawer gwell gan blant ddarllen cynnwys gan eu cyfoedion er bod rhieni'n gwerthfawrogi fy adolygiadau. Mae hyn yn rhywbeth rydw i eisiau ei ddatblygu ymhellach.
���Dim ond megis dechrau ydyn ni ac mae'r neges yn dal i gael ei lledaenu. Mae hwn yn amser pan mae pobl yn gorfod aros adref ac nid oes llawer o ddim byd arall i'w wneud felly mae'n amser da i geisio cael plant i ddarllen llyfr, yn enwedig os nad ydyn nhw'n darllen fel rheol.
���Rydyn ni'n rhoi sylw i'r holl lyfrau newydd yn ogystal 璽'r diwydiant a chyhoeddwyr, ac yn tynnu rhywfaint o sylw at y clasuron h韁n hefyd.
���Fy mwriad yw cynyddu nifer yr adolygiadau o lyfrau ar y wefan er mwyn iddo fod y casgliad mwyaf o adolygiadau llyfrau Cymraeg dwyieithog ar y we - mae'n bosib bod hyn yn wir yn barod. Buaswn yn hoffi i'r wefan fod 'y lle' i gael gwybodaeth am lyfrau Cymraeg i blant."
Mae'r wefan ar gael yn: