Cliciwch ar y cwestiwn er mwyn cael yr ateb.
Os nad ydych yn medru dod i’n Diwrnod Agored, gallwch ymweld â ni ar ddiwrnod sy’n gyfleus i chi. Cysylltwch â ni cyn gynted a phosibl fel ein bod yn medru sicrhau y profiad gorau bosibl. Cysylltwch â ni ar diwrnodauagored@bangor.ac.uk
Os ydych yn y broses o wneud cais am le mewn prifysgol, mae’n debyg y bydd gan eich ysgol neu goleg gopi o’r llyfryn Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau neu gallwch ddarllen y dudalen we Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
Mae'r system o wneud cais am lety'n agor fis Ionawr fel arfer. Bydd ymgeiswyr sydd wedi derbyn cynnig (a all fod yn un amodol) i astudio yn y Brifysgol ym mis Medi ac sy'n nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn, yn derbyn e-bost yn eich gwahodd i wneud cais am lety. Unwaith y byddwch wedi derbyn yr ebost, gallwch archebu ystafell drwy wneud cais ar-lein.
Dylech wneud cais am ystafell mewn neuadd cyn gynted ac y gallwch. Gallwch edrych ar yr holl Neuaddau gwahanol sydd gennym yma ym Mangor ar y wefan Llety lle gallwch wylio fideos a gweld lluniau o’r ystafelloedd.
Os oes gennych gynnig amodol ac eich bod wedi cyflawni amodau ein cynnig – ewch ar UCAS Hub i weld os yw eich lle wedi ei gadarnhau - Llongyfarchiadau rydych ar eich ffordd i'r brifysgol!
Peidiwch a phoeni! Y peth cyntaf i’w wneud yw edrych ar eich statws ar UCAS Hub. Os ydych wedi cael eich gwrthod, byddwch yn cael eich rhyddhau i’r system Glirio yn awtomatig. I wneud cais am gwrs ym Mhrifysgol Bangor trwy'r broses Gllirio, llenwch y ffurflen ar-lein, ffoniwch ein Llinell Gymorth Clirio ar 0800 085 1818 neu cysylltwch dros Sgwrs Fyw.
Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion yn cychwyn eu tymor cyntaf ddiwedd mis Medi. Mae'r wythnos gyntaf, sef Wythnos Groeso, yn gyfle i chi gynefino. Nid oes darlithoedd ffurfiol yn ystod yr wythnos ac mae amryw o weithgareddau'n cael eu trefnu er mwyn i chi ddod i adnabod myfyrwyr eraill a dod i adnabod y brifysgol.
Cewch wybod mwy am Wythnos Groeso a'r union ddyddiadau ar ein gwefan.
Wythnos Groeso (sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Wythnos y Glas, Ffreshers, Wythnos Gynefino) yw’r wythnos gyntaf y byddwch yn ei dreulio yn y brifysgol. Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y gweithgareddau lu sydd yn cael eu trefnu gan yr ysgolion academaidd. Yn ystod yr wythnos byddwch yn dewis modiwlau, talu ffioedd a dewis pa glybiau a chymdeithasau i ymuno â nhw yn y Ffair Serendipedd.
Côd Post prif adeilad Prifysgol Bangor ydy LL57 2DG. Am gyfarwyddiadau teithio, cliciwch yma